Annemarie Schimmel

| dateformat = dmy}}

Awdures o'r Almaen oedd Annemarie Schimmel (7 Ebrill 1922 - 26 Ionawr 2003) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfieithydd ac academydd a arbenigai mewn Astudiaethau Dwyreiniol.

Fe'i ganed yn Erfurt, talaith Thuringia, yr Almaen ar 7 Ebrill 1922; bu farw yn Bonn ac fe'i claddwyd yn Poppelsdorfer Friedhof. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Humboldt, Berlin. Priododd yn fyr yn y 1950au, ond nid oedd bywyd domestig yn gweddu iddi, a dychwelodd yn fuan i'w hastudiaethau ysgolheigaidd. Enillodd ail ddoethuriaeth ym Marburg yn hanes crefyddau (Religionswissenschaft) yn 1954. Darparwyd gan Wikipedia