Richard Burton
| dateformat = dmy}}:''Am y fforiwr a'r llenor, gweler Richard Francis Burton.''
Roedd Richard Burton (10 Tachwedd 1925 – 5 Awst 1984) yn actor o Bontrhydyfen ger Port Talbot. Ei enw bedydd oedd Richard Walter Jenkins; cymerodd yr enw "Burton" ar ôl ei athro Saesneg Philip H. Burton yn Ysgol Ramadeg Aberafan. Fe'i ganwyd ym Mhontrhydyfen. Roedd yn Gymro Cymraeg ac yn falch o'r iaith.
Actiodd ar y radio yn nrama ''Brad'' Saunders Lewis yn y ddwy iaith. Y cast oedd Emlyn Williams, Sian Phillips a Clifford Evans a'r cynhyrchydd oedd Emyr Humphreys.
Cyhoeddwyd bywgraffiad Cymraeg ''Richard Burton Seren Cymru'' gan Gethin Mathews yn 2002 gan Wasg Gomer.
Bu farw Burton yn Celigny, Genefa, y Swistir ar 5 Awst 1984. Darparwyd gan Wikipedia
1