Charles Darwin
Naturiaethwr o Loegr oedd Charles Robert Darwin, F.R.S. (12 Chwefror 1809 – 19 Ebrill 1882). Chwyldrôdd yr astudiaeth o hanes natur a'r cysyniad traddodiadol am natur a hanes y ddynolryw a gosododd y seiliau i ddamcaniaeth esblygiad a hefyd cynigiodd yr egwyddor o darddiad cyffredin fel canlyniad i ddetholiad naturiol. Cyflwynwyd y ddamcaniaeth i'r byd ym 1858 yn y Linnaean Society ar y cyd ag Alfred Russel Wallace ac i'r cyhoedd wedyn yn ei lyfr ''The Origin of Species'', a gyhoeddwyd yn 1859; gwaith enwocaf Charles Darwin.Yn Awst 1831, astudiodd greigiau Eglwyseg ger Llangollen ac yna ymweliad â Phen y Gogarth yn Llandudno, cyn mynd ymlaen i Gwm Idwal yn Eryri lle sylweddolodd (am y tro cyntaf) fod y Ddaear yn llawer iawn hŷn nag a gredwyd yr adeg honno. Ar ei daith ddaearegol olaf i Gymru, ym 1842, fe ymwelodd â Moel Tryfan ym mhlwyf Llanwnda, lle roedd olion o waddodiad morol wedi eu darganfod ar ffurf cregin; er na chafodd hyd i fwy o'r rhain, fe ddaeth at rai casgliadau ynglŷn â ffurfiant y gwythiennau llechfaen yn yr ardal, sydd ar ongl anarferol.
Teithiodd Darwin o gwmpas y byd ar fwrdd HMS ''Beagle'' ac roedd ei arsylliadau ar Ynysoedd y Galapagos yn bwysig iawn i'w ddamcaniaeth. Darparwyd gan Wikipedia
1