John Nash

:''Am y mathemategwr o Unol Daleithiau America gweler John Forbes Nash, Jr.'' Pensaer o Loegr a fu'n byw yng Nghymru am gyfnod oedd John Nash (18 Ionawr 175213 Mai 1835). Adeiladodd llawer o adeiladau enwog yn Llundain.

Cafodd ei eni yn Llundain ac astudiodd i fod yn bensaer o dan Syr Robert Taylor, ond heb fod yn llwyddiannus iawn. Ar ôl etifeddu ffortiwn mawr symudodd ef i Gymru. methodd a buddsoddi'n ddoeth a doedd dim arian ar ôl erbyn 1783. O ganlyniad bu rhaid iddo weithio eto fel pensaer gan gynllunio plastai yn y wlad, a chydweithio gyda Humphry Repton, cynllunydd gerddi tirlun. Aeth Nash yn ôl i weithio yn Llundain ym 1792.

Bu'n byw ar Ynys Wyth am flynyddoedd a chafodd ei gladdu yn Cowes. bawd|Cerflun John Nash yn All Souls Church, Llundain Darparwyd gan Wikipedia