Martin Lings
Ysgolhaig Islamaidd o Loegr oedd Martin Lings (Abu Bakr Siraj Ad-Din; 24 Ionawr 1909 – 12 Mai 2005) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o Muhammad.Ganed yn Burnage, Swydd Gaerhirfryn, a chafodd ei fagu yn Unol Daleithiau America lle'r oedd ei dad yn gweithio. Dychwelodd i Loegr i fynychu Coleg Clifton, Bryste, lle'r oedd yn brif swyddog y bechgyn. Cafodd ei fagu yn y ffydd Brotestannaidd, ac yn ddiweddarach fe drodd yn anffyddiwr. Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, ac yno bu'n gyfaill i C. S. Lewis. Aeth i Lithwania ym 1935 i ddarlithio ar yr ieithoedd Eingl-Sacsoneg a Saesneg Canol ym Mhrifysgol Kaunas.
Teithiodd i'r Aifft ym 1940 i ymweld â chyfaill a oedd yn darlithio ym Mhrifysgol Cairo, ac yn sgil marwolaeth ei gyfaill cafodd Lings ei gyflogi yn ddarlithydd yn y brifysgol. Trodd Lings yn Fwslim, a chafodd ei atynnu gan y traddodiad Swffïaidd a chan syniadau René Guénon am "y Traddodiad tragwyddol". Priododd â Lesly Smalley ym 1944, a buont yn byw mewn pentref ger Pyramidau Giza. Yn sgil chwyldro Gamal Abdel Nasser ym 1952, cafodd gweithwyr Prydeinig y brifysgol eu diswyddo a dychwelodd Lings i Loegr. Astudiodd am radd mewn astudiaethau Arabeg, a derbyniodd ddoethuriaeth o SOAS am astudio'r shîc Swffïaidd Ahmad al-Alawi. Ysgrifennodd y llyfr ''A Sufi Saint of the Twentieth Century'' ar sail ei draethawd doethurol.
Ym 1955 penodwyd Lings yn geidwad cynorthwyol dros lyfrau a llawysgrifau Dwyreiniol yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dyrchafwyd yn geidwad dros yr eitemau hynny ym 1970, ac ym 1973 cafodd ei drosglwyddo i'r Llyfrgell Brydeinig. Cyhoeddodd y gyfrol ''The Qur'anic Art of Calligraphy and Illumination'' (1976) adeg Gŵyl Fyd Islam yn Llundain. Ym 1983 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf, ''Muhammad: His Life Based on the Earliest Sources'', bywgraffiad o'r Proffwyd Muhammad ar sail ffynonellau Arabeg o'r 8g a'r 9g. Bu farw yn ei gartref yn Westerham, Caint, yn 96 oed. Darparwyd gan Wikipedia
1
2