Miguel de Cervantes

200px|bawd|Miguel de Cervantes Nofelydd, bardd a dramodydd o Sbaen oedd Miguel de Cervantes (29 Medi 154723 Ebrill 1616). Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei nofel bicaresg enwog ''Don Quixote'' ond roedd hefyd yn ddramodydd o fri yn ei ddydd ac yn awdur straeon byrion.

Ganwyd Miguel De Cervantes Saavedra yn Alcala de Henares, tref rhyw ugain milltir o Fadrid.

Enillodd glod fel milwr ond bu'n gaethwas i'r Mwriaid am bum mlynedd. Priododd â Catalina Salazar yn 1584. Yn 1594 daeth yn gasglwr trethi yn nhalaith Granada ond erbyn 1597 roedd mewn dyled i'r Llywodraeth.

Cyhoeddwyd ''Don Quixote'' yn 1605. Bu'n llwyddiant mawr a gwerthwyd 5 argraffiad cyn diwedd y flwyddyn. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Miguel de Cervantes
Cyhoeddwyd 2006
Llyfr