Muhammad

Sylfaenydd crefydd Islam oedd Muhammad neu Mohamed sef مُحَمَّد ٱبن عَبْد ٱللَّٰه mewn Arabeg (570 - 8 Mehefin, 632). Ganwyd ef ym Mecca rywbryd yn y flwyddyn 570 OC, yn fab i Abd Allah a oedd yn aelod o deulu'r Hashimiaid o lwyth y Quraysh, a bu farw ym Medina (yn Sawdi Arabia heddiw). Bu farw ei dad cyn iddo gael ei eni a bu ei fam, Amina, farw pan oedd yn chwech oed.

Yn ôl dysgeidiaeth Islam, cafodd Muhammad weledigaeth ddwyfol yn 610, y gyntaf o nifer. Gwelodd yr angel Gabriel a chlywed llais yn dweud wrtho "Adrodd". Ar ôl oedi a phetruso, yn y diwedd derbyniodd Muhammad yr alwad. Arwyddocâd y weledigaeth oedd iddo fod yn lladmerydd i'r gwirionedd dwyfol a dechrau lledaenu'r neges newydd.

Ar ôl marwolaeth Muhammad yn 632, cafodd y ddysgeidiaeth a ddatguddiwyd iddo ei threfnu i ffurfio'r ''Coran'', llyfr sanctaidd y Mwslemiaid. Mae Mwslemiaid yn credu, fodd bynnag, fod y ''Coran'' yn llyfr tragwyddol sy'n air Allah ei hun ac ei drosglwyddo i'r ddynoliaeth a wnaeth Muhammad; ni fyddai Mwlemiaid fyth yn cyfeirio at Fuhammad fel "awdur" y ''Coran'', gan ystyried fod hynny'n gabledd.

Fe'i dilynwyd fel arweinydd y Mwslemiaid gan Abu Bakr, a ystyrir fel y Califf cyntaf. Ychydig iawn o ddilynwyr oedd gan Muhammad i ddechrau, a chawsant eu dirmygu gan amldduwiaid Mecca am 13 mlynedd. Er mwyn dianc rhag erledigaeth barhaus, anfonodd Muhammad rhai o'i ddilynwyr i Abyssinia yn 615, cyn iddo ef a'i ddilynwyr ymfudo o Mecca i Medina (a elwid bryd hynny'n Yathrib) yn ddiweddarach yn 622. Mae'r digwyddiad hwn, yr ''Hijra'', yn nodi dechrau'r calendr Islamaidd, a elwir hefyd yn Galendr Hijri. Ym Medina, unodd Muhammad y llwythau o dan Gyfansoddiad Medina. Yn Rhagfyr 629, ar ôl wyth mlynedd o ymladd ysbeidiol â llwythau Mecca, casglodd Muhammad fyddin o 10,000 o dröedigion Fwslimaidd a gorymdeithio ar ddinas Mecca . Aeth y goncwest yn ddiwrthwynebiad i raddau helaeth a chipiodd Muhammad y ddinas heb fawr o dywallt gwaed. Yn 632, ychydig fisoedd wedi dychwelyd o Bererindod y Ffarwelio, aeth yn wael a bu farw. Erbyn ei farwolaeth, roedd y rhan fwyaf o Benrhyn Arabia wedi trosi i Islam.

Mae'r datguddiadau (a elwir pob un yn ''Ayah'' – yn llythrennol, "Arwydd [o Dduw]") yr adroddodd Muhammad ei fod wedi eu derbyn gair am air gan Dduw, hyd at ei farwolaeth, yn ffurfio adnodau'r Quran; ar y rhain, yr Ayah, y mae'r grefydd wedi'i seilio. Heblaw am y Qur'an, mae dysgeidiaeth ac arferion Muhammad (''sunnah''), a geir yn llenyddiaeth Hadith a ''sira'' (bywgraffiad), hefyd yn cael eu cynnal a'u defnyddio fel ffynonellau cyfraith Islamaidd (gweler Sharia).

200px|bawd|chwith|Muhammad yn pregethu - llun anghyffredin o'r 17g (copi o lun cynharach) o [[Iran|Bersia neu Ganolbarth Asia sy'n dangos wyneb y Proffwyd, yn groes i'r arfer Islamaidd]]. Darparwyd gan Wikipedia
1
gan Muhammad
Cyhoeddwyd 2005
Cael y testun llawn
Anhysbys
2
gan MUHAMMAD
Cyhoeddwyd 2002
Llyfr
3
gan Muhammad
Cyhoeddwyd 2002
Llyfr
4
gan MUHAMMAD
Llyfr
5
gan MUHAMMAD
Cyhoeddwyd 2013
Llyfr
6
gan Muhammad
Cyhoeddwyd 2007
Llyfr
7
gan MUHAMMAD Muhammad Badri
Cyhoeddwyd 2016
Llyfr
8
gan muhammad thariq muhammad shaleh
Cyhoeddwyd 2006
Llyfr
9
gan Muhammad Faikar
Cyhoeddwyd 2004
Llyfr
10
gan RASYAF, Muhammad
Cyhoeddwyd 1991
Llyfr
11
gan MUHAMMAD Firdaus
Cyhoeddwyd 2008
Llyfr
12
gan Rusjdi, Muhammad
Cyhoeddwyd 2005
Llyfr
13
gan Sholikhin Muhammad
Cyhoeddwyd 2004
Anhysbys
14
gan Imarah Muhammad
Cyhoeddwyd 1998
Anhysbys
15
gan ISMAIL Muhammad
Cyhoeddwyd 2002
Anhysbys
16
gan ALBANI, Muhammad
Cyhoeddwyd 2007
Anhysbys
17
gan Yozaf Muhammad
Cyhoeddwyd 2004
Llyfr
18
gan MUHAMMAD, Yosaf
Cyhoeddwyd 2004
Llyfr
19
gan Damhuri Muhammad
Cyhoeddwyd 2005
Llyfr
20
gan Thalib Muhammad
Cyhoeddwyd 2002
Llyfr