Richelle Mead

| dateformat = dmy}}

Awdur nofelau ffantasi o Unol Daleithiau America yw Richelle Mead (ganwyd 12 Tachwedd 1976) sy'n sgwennu, gan mwyaf i blant a phobl ifanc.

Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Michigan, Prifysgol Gorllewin Michigan a Phrifysgol Washington. Mae heddiw'n byw yn Kirkland, Washington (2019).

Ymhlith ei gwaith mwyaf poblogaidd mae'r gyfres ''Georgina Kincaid'', ''Vampire Academy'', a chyfres ''Bloodlines and the Dark Swan''.

Mae ganddi dair gradd: Baglor mewn Astudiaethau Cyffredinol o Brifysgol Michigan, Meistr mewn Crefydd Gymharol o Brifysgol Western Michigan, a Meistr Addysgu o Brifysgol Washington.

Daeth yn athrawes gradd 8 yn maestrefol Seattle, wedi iddi adael y coleg; yno, bu’n dysgu astudiaethau cymdeithasol a Saesneg. Parhaodd i ysgrifennu yn ei hamser rhydd, nes iddi werthu ei nofel gyntaf, ''Succubus Blues''. Ar ôl rhoi'r gorau i'w swydd, trodd at sgwennu’n llawn amser, a chyhoeddwyd nifer o lyfrau newydd yn gyflym wedi hynny. Darparwyd gan Wikipedia