Sigmund Freud

Niwrolegydd a seiciatrydd Iddewig o Awstria oedd Sigmund Freud (IPA: ˈziːkmʊnt ˈfʁɔʏt; ganed Sigismund Schlomo Freud; 6 Mai 185623 Medi 1939; . Fe sefydlodd wyddor seicdreiddiad, ac fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar yr meddwl anymwybodol (ac am ataliad yn benodol), ei ail-ddiffiniad o chwenychiad rhywiol, a'i dechneg therapi (gan gynnwys dadansoddi breuddwydion). Mae olion ei waith i'w weld o hyd mewn llenyddiaeth, ffilm, damcaniaethau Marcsaidd a Ffeministaidd, Swrealaeth ac athroniaeth yn ogystal â seicoleg. Er hyn, erys lawer o'i ddamcaniaethau'n ddadleuol iawn.

Tadcu y darllediadwr Clement Freud oedd ef.

Un o'i gydweithwyr agosaf oedd y Cymro Ernest Jones a oedd yn ŵr i Morfudd Llwyn Owen. Darparwyd gan Wikipedia