Arena
Mae arena yn lleoliad mawr caeedig, yn aml yn grwn neu'n hirgrwn, wedi'i gynllunio i arddangos theatr, perfformiadau cerddorol neu ddigwyddiadau chwaraeon. Daw'r gair yn wreiddiol o'r gair Lladin '''', tywod mân iawn a oedd yn gorchuddio llawr arenâu hynafol fel y Colosseum yn Rhufain, yr Eidal, er mwyn amsugno gwaed. Mae'n aml yn gysylltiedig â'r brwydrau rhwng gladiatoriaid yn yr Ymerodraeth Rufeinig hynafol.Mae'n cynnwys gofod agored mawr wedi'i amgylchynu gan fwyaf neu bob ochr gan haenau o seddi neu le i sefyll ar gyfer gwylwyr, a gall fod wedi'i orchuddio â tho. Prif nodwedd arena yw mai'r gofod digwyddiadau yw'r pwynt isaf, gan sicrhau'r gwelededd gorau posibl. Fel arfer mae arenâu wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer llu o wylwyr.
Yn ddiweddar, daeth y term ''arena'' i gael ei ddefnyddio i ddisgrifio lleoliad mawr iawn fel y Rose Bowl ym Mhasadena, ond gelwir cyfleuster o'r fath fel arfer yn ''stadiwm''. Mae defnyddio un term dros y llall yn ymwneud yn bennaf â'r math o ddigwyddiad. Fel arfer, chwaraeir pêl-droed, rygbi, pêl-droed Americanaidd, pêl droed rheolau Awstralia, neu bêl-droed Wyddelig mewn stadiwm, tra bod pêl-fasged, pêl-foli, pêl-law, a hoci iâ fel arfer yn cael eu chwarae mewn arena. Mae yna eithriadau. Darparwyd gan Wikipedia
1
2
3
4